Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 15
Mawrth 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(15 munud)
NDM5999 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau
Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror
2016.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau
Canlyniadol) 2016
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol -
Dim pwyntiau adrodd
(15 munud)
NDM5998 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Chwefror 2016.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgoriau Hylendid Bwyd) (Cymru)
2016
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol -
Dim pwyntiau adrodd
(15 munud)
NDM5992 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â gwelliannau i Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 mewn perthynas â'r cynllun Awdurdod Sylfaenol a gwelliannau i Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 mewn perthynas ag egwyddorion a chod y rheoleiddwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).
Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2015-16/enterprise.html
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3)
Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes
(15 munud)
NDM5994 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter sy'n ymwneud â chyfyngu ar daliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 4) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig (Memorandwm rhif 4) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2015-16/enterprise.html
Dogfennau Ategol
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 4)
Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth
Leol
(15 munud)
NDM5995 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â phrynu gorfodol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru,.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2015-16/housingandplanning.html
Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif
2)
Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
(15 munud)
NDM5996 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phrentisiaethau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 5) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2015-16/enterprise.html
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif
5)
Nodyn
Cyngor Cyfreithiol
(15 munud)
NDM5993 Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y Deyrnas Unedig ystyried y darpariaethau yn y Bil Mewnfudo sy'n ymwneud â gofynion iaith Gymraeg ar gyfer gweithwyr penodol yn y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).
Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2015-16/immigration.html
Dogfennau Ategol
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth
Leol
NDM6001 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.
Dogfennau Ategol
Gorchymyn
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2)
2016
Memorandwm Esboniadol
(Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Dim pwyntiau
adrodd
NDM6002 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 3) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Safonau'r Gymraeg (Rhif 3) 2016
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
NDM6003 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 4) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Safonau'r Gymraeg (Rhif 4) 2016
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol -
Dim pwyntiau adrodd
NDM6004 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg
(Rhif 5) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror
2016.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Safonau’r Gymraeg (Rhif 5) 2016
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol -
Dim pwyntiau adrodd
NDM6005 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur
y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016 yn cael ei
llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.
Dogfennau Ategol
Gorchymyn
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol)
2016
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol -
Dim pwyntiau adrodd
(60 munud)
NDM6000 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Croesawu'r system well ar gyfer addasiadau, a fydd yn helpu pobl i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain;
2. Cydnabod bod y system wedi'i datblygu gyda chymorth a chefnogaeth rhanddeiliaid allweddol;
3. Nodi y bydd y datblygiad hwn yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt ac yn cyflymu'r broses o wneud yr addasiadau; a
4. Croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fonitro ac adrodd ar effaith y system a'i effeithiolrwydd.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 16 Mawrth 2016